Mae’r heddlu wedi lansio adolygiad fforensig i farwolaeth dynes 40 mlynedd yn ôl.
Cafodd Sandra Phillips, 37, ei lladd tra’n gweithio mewn siop ryw ar Stryd Dillwyn, Abertawe, ar 14 Mehefin 1985.
Fe gafodd ymchwiliad trylwyr ei gynnal i’r llofruddiaeth yn 2004, ond ni ddatblygodd unrhyw gliwiau newydd.
Dywedodd Heddlu’r De fod nifer o eitemau wedi cael eu cyflwyno ar gyfer profion fforensig pellach.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Claire Lamerton, pennaeth Uned Adolygu Heddlu De Cymru, fod yr heddlu “wedi cael llwyddiant sylweddol gyda hen achosion sydd heb eu datrys, gan fod yn un o’r lluoedd cyntaf yn y wlad i sefydlu tîm adolygu yn 1999 i gynnal adolygiadau i achosion o’r fath”.
“Rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr adolygiad fforensig yn rhoi’r cyfle i ni sicrhau cyfiawnder i deulu Sandra, sydd wedi cael gwybod am y gwaith newydd yma.
“Er bod pedwar degawd wedi pasio, rwy’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am farwolaeth Sandra i ddod ymlaen.”
#Lansio #adolygiad #fforensig #farwolaeth #dynes #mlynedd #ôl