News portalspace

Blog Post

News portalspace > International > Diffyg gofal erthylu yn ‘frawychus’ ac yn peri ‘gofid’

Diffyg gofal erthylu yn ‘frawychus’ ac yn peri ‘gofid’

“Ro’ ni wrth fy modd yn feichiog – doeddwn i byth yn disgwyl dod â’r beichiogrwydd i ben – roedd yn drawmatig iawn dod i’r canlyniad yna.”

Gwnaeth Katie a’i phartner y penderfyniad i erthylu ar ôl cael gwybod na fyddai ei babi’n debygol o oroesi, neu’n dioddef bywyd “anodd a phoenus”.

Nid oedd y driniaeth yr oedd Katie’n ffafrio ar gael iddi yng Nghymru a bu’n rhaid iddi deithio dros y ffin.

Fe gafodd lawdriniaeth o dan anesthetig cyffredinol yn Lloegr er mwyn arbed “llawer iawn o drawma, poen a dioddefaint”.

Mae menywod yng Nghymru sydd dros 18 wythnos yn feichiog yn cael eu cyfeirio at glinig cynghori gan fwyaf, sy’n eu cyfeirio i Loegr i gael erthyliadau.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod disgwyl i fyrddau iechyd “sicrhau bod cymorth ar gael yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ystod o ddewisiadau atgenhedlu, gan gynnwys erthyliad”.

#Diffyg #gofal #erthylu #frawychus #peri #gofid

Leave a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *