Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran y clwb: “Cafodd y diwrnod ei ddwyn oddi wrthym yn llythrennol. Ochr yn ochr â’r effaith ariannol amlwg – yn draddodiadol mae’n un o’n diwrnodau prysuraf ac mae yna ymdeimlad dyfnach o golled.
“Mae Gŵyl San Steffan bob amser wedi bod yn achlysur arbennig ar gyfer cymdeithasu – yn enwedig â’r rhai sydd gartref dros gyfnod y Nadolig.
“Mae’n ddiwrnod y mae’r gymuned yn edrych ymlaen ato drwy gydol y flwyddyn, yn llawn rygbi gwych a cherddoriaeth o safon.
“Fel sefydliad sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, rydym yn hynod siomedig ein bod wedi cael ein targedu, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn.”
Mae yna amheuon bod y lladrad wedi digwydd rhwng tua 04:00 a 06:30 ar 26 Rhagfyr.
Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad, a dywedodd llefarydd ar ran y clwb eu bod wedi cael cyngor i beidio ag agor tra bod yr ymholiadau’n parhau.
Er gwaethaf yr hyn sydd wedi digwydd dywed y clwb eu bod yn ddiolchgar am y gefnogaeth y maen nhw wedi ei derbyn gan y gymuned a chlybiau chwaraeon eraill.
Mae nhw’n hynod o ddiolchgar i’r tri a ddaeth i atgyweirio’r to a gafodd ei ddifrodi yn ystod y digwyddiad.
#Clwb #Rygbi #Ystradgynlais #gau #ddydd #Gŵyl #San #Steffan #wedi #lladrad