Mae Edward McCann yn dal i fynnu mai iddo ef yr oedd y planhigion a’r siocled, a hynny i’w helpu dygymod â’i lewcemia.
“Felly fe gafoch chi eich carcharu am fod ag un bar o siocled yn eich meddiant a 40 planhigyn?” gofynnodd y barnwr Geraint Walters.
“Faint o arian wnaethoch chi o’r fenter?” gofynnodd y barnwr.
“Dim,” oedd ateb Edward McCann.
Ychwanegodd y barnwr fod y fenter wedi denu sylw ffermwyr lleol ardal Hendy-gwyn ar Daf, a bod yr holl gamerâu cylch cyfyng ar fferm heb anifeiliaid yn codi llawer o gwestiynau.
“Fe wnaethoch chi dynnu sylw mawr iawn i ryfeddod yr holl beth,” meddai.
Cafodd Linda McCann ei dedfrydu i chwe blynedd a saith mis ‘nôl ym mis Awst 2022.
Ym mis Rhagfyr 2022 cafodd Edward MCcann ddedfryd o saith mlynedd a saith mis, a Daniel McCann i wyth mlynedd a chwe mis.
Clywodd y tri y bydd rhaid dychwelyd i’r carchar os na chaiff eu dirwy ei dalu, a bydd y disgwyliad i dalu yn parhau hyd yn oed pe taen nhw yn dewis cyfnod arall dan glo.
#Gorchymyn #deulu #fun #ffermio #canabis #deorllewin #dalu