News portalspace

Blog Post

News portalspace > International > Cwestiynu penderfyniad i roi arian cyhoeddus i Glwb Pêl-droed Wrecsam

Cwestiynu penderfyniad i roi arian cyhoeddus i Glwb Pêl-droed Wrecsam

Dywedodd Mr Borson fod adroddiad strategol y clwb, o haf 2024, yn cydnabod pwysigrwydd datblygu’r Cae Ras.

“Bydd [yr eisteddle] yn ffordd y gallen nhw gynhyrchu mwy o refeniw, gwerthu mwy o seddi, cael mwy o gefnogwyr a datblygu’r busnes.

“Mae’n anarferol iawn, ar y cyfan, y byddai’r llywodraeth yn gweld hi’n briodol, mewn amgylchedd economaidd sydd o dan straen mawr, i flaenoriaethu cyllid clwb pêl-droed preifat – sy’n eiddo i bobl fusnes o’r UDA – sydd, rhyngddynt, yn llythrennol â biliynau o bunnoedd mewn asedau.”

Aeth ymlaen i ddweud y byddai’n “debygol iawn, fyddwn i’n dweud, y byddai’r perchnogion wedi talu amdano eu hunain. Mae’n hanfodol i’r clwb pêl-droed”.

“Mae gan bob clwb yn y wlad bedwar eisteddle – byddai pob clwb sydd âg unrhyw uchelgais o gyrraedd yr Uwch Gynghrair hefo pedwar eisteddle.

“Mae’n debygol iawn y bydd yr holl fudd, dros amser, yn cronni i’r grŵp yma o berchnogion,” meddai Mr Borson.

#Cwestiynu #penderfyniad #roi #arian #cyhoeddus #Glwb #Pêldroed #Wrecsam

Leave a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *