News portalspace

Blog Post

News portalspace > International > Carcharu Nathan Gill am 10 mlynedd am lwgrwobrwyo

Carcharu Nathan Gill am 10 mlynedd am lwgrwobrwyo

Yn ei sylwadau cyn dedfrydu Gill, amlinellodd y barnwr effaith ei weithredoedd yn ehangach ar ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddion a systemau gwleidyddol.

“Pan fyddwch chi’n dweud yr hyn y mae rhywun wedi’ch talu chi i’w ddweud, dydych chi ddim yn siarad yn ddiffuant. Pe bai’n farn wirioneddol i chi, ni fyddai angen i chi gael eich talu am ei ddweud,” meddai.

“Mae caniatáu i arian lygru eich cwmpawd moesol yn gyfystyr â bradychu’r ymddiriedaeth a roddwyd ynoch gan yr etholwyr.

“Mae gan eich camymddygiad oblygiadau y tu hwnt i anrhydedd personol, sydd bellach wedi’i ddifrodi’n anadferadwy.”

Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau ar ôl i Gill gael ei ddedfrydu, dywedodd Bethan David, pennaeth gwrthderfysgaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, fod gweithredoedd Gill yn “ergyd i uniondeb democrataidd”.

Dywedodd bod Gill yn gwybod bod ei weithredoedd “yn ddrwg” a dim ond ar ôl i’r DU adael yr UE y daethant i ben oherwydd “nad oedd o ddefnydd mwyach i’r rhai oedd yn ceisio ei ddylanwadu”.

#Carcharu #Nathan #Gill #mlynedd #lwgrwobrwyo

Leave a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *