News portalspace

Blog Post

News portalspace > International > Cyngor i gau ffenestri wrth i ddwsinau o danau gwair ledaenu

Cyngor i gau ffenestri wrth i ddwsinau o danau gwair ledaenu

Nos Iau roedd dros 20 o ddiffoddwyr yn taclo tân gwair mawr yn Nhrefriw yn Sir Conwy.

Cafodd digwyddiad yn Nhreorci ei ddisgrifio fel “tân sylweddol” ond roedd yn rhaid aros tan fore Gwener i’w daclo gan fod yr amodau’n anniogel yn y tywyllwch.

Mae’r tanau’n dilyn nifer o ddyddiau sych a heulog, ond mae disgwyl i’r amgylchiadau fod yn fwy ansefydlog dros y penwythnos wrth i system wasgedd isel symud i mewn o’r de orllewin.

Dywedodd Eddy Blanche, Cynghorydd cymunedol Cwm Darran, bod y tanau yma yn cael “effaith ddinistriol ar fywyd gwyllt” ac yn rhoi diogelwch y cyhoedd ac aelodau’r gwasanaeth tân mewn perygl.

“Roedd adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol o geffylau gydag ebolion ifanc yn cael eu gweld yn ffoi rhag y fflamau ac yn gorfod cael eu gadael allan o’r caeau ar y ffyrdd.

“Os yw’r rhain yn cael eu cychwyn yn fwriadol, rwy’n gobeithio y bydd yr heddlu yn dod o hyd i’r rhai sy’n gyfrifol ac yn eu herlyn,” ychwanegodd.

#Cyngor #gau #ffenestri #wrth #ddwsinau #danau #gwair #ledaenu

Leave a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *